Ein Gwasanaethau
Astudiaethau Dichonolrwydd a Chynllunio Busnes
Bydd Alliance Leisure yn darparu gwerthusiadau dewisiadau gan gynnwys astudiaeth ddichonoldeb a dylunio cysyniad er mwyn hwyluso'r broses o gynhyrchu cynlluniau busnes cadarn a fydd yn galluogi cleientiaid i ystyried yr achos busnes ar gyfer datblygiadau arfaethedig.
Gwasanaethau Dylunio
Mae Alliance Leisure yn cydweithio gyda nifer o benseiri hamdden sydd ag ystod eang o brofiad a sgiliau cysylltiedig.
Caiff penseiri eu dewis ar gyfer pob prosiect yn seiliedig ar ofynion y prosiect, llwyth gwaith y ffi a phrofiad hamdden penodol.
Darganfod a Darparu Cyllid Preifat
Gall Alliance Leisure ddarparu cyllid sector preifat cystadleuol drwy ei banel o gyllidwyr.

Adeiladu
Bydd y Fframwaith yn canolbwyntio ar ddau ddull adeiladu: 1. Dylunio ac Adeiladu 2. Adeiladu yn Unig Gelllir defnyddio'r mathau canlynol o gontract adeiladu o dan y Fframwaith: 1. Contract Dylunio ac Adeiladu JCT 2011/2016 2. Cytundeb Gwasanaethau Cyn-Adeiladu JCT (Contractwr Cyffredinol) 2011/16 3. Contract Adeiladu a Pheirianneg NEC 3 (Opsiwn C) 4. Contract Gwasanaethau Proffesiynol NEC (3ydd Argraffiad) 5. Contract Sport England
Gwasanaethau Gwerthu a Marchnata
Gall Alliance ddarparu Gwasanaethau Rheoli Gwerthu a Marchnata ar gyfer pob prosiect Awdurdod Cleient unigol un ai'n gysylltiedig â phrosiect datblygu neu ar sail annibynnol. Gall hyn gynnwys: Timau Gwerthu Impact Ymgyrchoedd marchnata Datblygu Brand Hyfforddiant Staff (Gwerthu, Cynnal a Gwasanaeth)) Marchnata Digidol Siopa Dirgel Gwasanaethau Archwilio Marchnata Gellir talu am Wasanaethau Gwerthu a Marchnata ar sail ad-hoc am becynnau pwrpasol o gymorth neu ar sail rhannu incwm lle bydd taliad yn cael ei wneud i Alliance Leisure pan fydd targedau incwm y cytunwyd arnynt wedi eu pasio.
Darparu Offer
O dan y Fframwaith hamdden gall gweithredwyr brynu offer hamdden sy’n cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i): - Offer Iechyd a Ffitrwydd - Offer Chwarae - Offer Dringo - Offer Tynhau - Dodrefn Swyddfa a Hamdden - Synhwyro Boddi - Datrysiadau TG - Arwyddion - Bwyd a Diod