Ynglŷn â Fframwaith Hamdden y DU
Darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer Diwydiant Hamdden y DU
Mae Fframwaith Hamdden y DU yn caniatáu penodi partner yn uniongyrchol ar gyfer cwmpasu, dylunio, ailwampio, adeiladu a datblygu Canolfannau Hamdden, Theatrau, cyfleusterau Chwarae, cyfleusterau hamdden a chyfleusterau chwaraeon ar draws sector cyhoeddus y DU. Mae hefyd yn cefnogi marchnata’r mathau hyn o gyfleusterau.
Cafodd y Fframwaith ei chaffael yn unol â Rheoliadau Caffael yr UE gan Gyngor Sir Ddinbych, ac wedi proses dendro a gwerthuso ddwys penodwyd Alliance Leisure Services. Cyngor Sir Ddinbych felly sydd yn berchen ar y Fframwaith ond mae bwrdd rheoli sy’n cynnwys Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a staff Alliance Leisure Services wedi ei sefydlu er mwyn monitro a datblygu’r Fframwaith.
Mae’r Fframwaith ar gael i bob sefydliad sector cyhoeddus y DU a restrir YMA. Mae hyn yn cynnwys unrhyw Ymddiriedolaethau Hamdden ac / neu gwmnïau Cydfuddiannol hyd braich sy’n gysylltiedig ag unrhyw Awdurdodau sector cyhoeddus y DU, neu unrhyw Gwmnïau Cyfyngedig Preifat sy’n gweithredu cyfleusterau hamdden ar ran sefydliad cleient Sector Cyhoeddus y DU sydd wedi eu rhestru.
Yn ogystal â’r Awdurdodau Cleient a restrir, gall cyrff cyhoeddus eraill ymuno, cael mynediad at a defnyddio’r Fframwaith o dro i dro yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Reolaeth y Fframwaith.
Mae’r Fframwaith yn caniatáu Alliance Leisure i sefydlu perthnasau uniongyrchol gyda sefydliadau er mwyn cwmpasu, datblygu a darparu datblygiadau hamdden corfforol a gwasanaethau sy’n ymwneud â diwylliant a marchnata. Yn bwysig, nid yw’n ymrwymo’r cleient i ymgymryd â datblygiad, ond mae’n caniatáu archwilio prosiectau posib a fydd ond yn dwyn ffrwyth os bydd fforddiadwyedd yn gadarnhaol.
Mae Tymor y Fframwaith ar gael o Chwefror 2017 hyd at Ionawr 2021.
Pam ein Dewis ni?
Tîm ymroddgar o arbenigwyr hamdden sydd wedi ymrwymo i’ch amcanion a’ch gweledigaeth.
Mae Fframwaith Hamdden y DU yn darparu Partner Datblygu sy’n cynnig datrysiad gosodedig i gaffael ystod o wasanaethau hamdden.
Manteision allweddol:
– Sicrwydd Cysyniad hyd at Gost
– Cynllunio Busnes Cadarn a Dichonolrwydd
– Dylanwad Cadwyn Gyflenwi
Cyflymder Cyflawni
Rheolaeth Prosiect
– Cefnogaeth Weithredol a Marchnata
Trosglwyddo Risg
Hanes Blaenorol o Gyflawni Llwyddiannus
Costau Tendro Is
Mae proses gaffael Dylunio ac Adeiladu arferol yn cymryd rhwng 6 – 15 mis ac yn aml mae’n cael ei arwain gan ddyhead a dyluniad yn hytrach na chael ei chynllunio at fforddiadwyedd busnes annibynnol.
Mae Fframwaith Hamdden y DU yn caniatáu penodi Alliance Leisure i gwmpasu a chynllunio busnes y prosiect gan sicrhau fod fforddiadwyedd a chynaliadwyedd yn flaenoriaethau i’r datblygiad. Fel arfer gall Alliance Leisure fod ar y safle o fewn chwe mis i’w penodi.
Mae’r dewis o ddefnyddio gwasanaethau marchnata’r Fframwaith hefyd yn unigryw gan y gall Alliance Leisure ddarparu’r gwasanaeth hyn ar sail rhannu incwm ac o ganlyniad ddileu unrhyw daliad o flaen llawn gan y cleient, gan dalu wedi i dargedau a gytunwyd arnynt yn flaenorol gael eu pasio.